Cyflwyniad i S4C | About S4C
Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n bodoli i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg. Ein swyddogaeth yw i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio at ddefnyddwyr yr iaith Gymraeg o bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amrywiol lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae swyddogaeth S4C yn unigryw. Rydym yn comisiynu, creu a dosbarthu cynnwys Cymraeg o ansawdd uchel. Mae S4C yn buddsoddi ac yn ymbweru unigolion a chwmnïau i greu cynnwys apelgar ar gyfer defnyddwyr. Mae creadigrwydd wrth wraidd ein gwaith sy’n cael ei gyflawni drwy gydweithio’n agos gyda’r sector greadigol.
Mae’r ffordd mae defnyddwyr yn ymwneud â chynnwys wedi newid yn sylweddol ac mae’n rhaid inni ymateb i’r her. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni adnabod ein cynulleidfa’n well gan ymateb i’w anghenion a chomisiynu cynnwys yn yr iaith Gymraeg sy’n feiddgar, clyfar, yn cynyddu gwerth ac yn creu argraff.